R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw asesiad y Gweinidog hyd yma o'r ymgyrch Blas am Oes? OAQ(4)0376(ESK)
2. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer darpariaeth anghenion addysgol arbennig yn Abertawe? OAQ(4)0368(ESK)
3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig? OAQ(4)0382(ESK)
4. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau o ran gwella cyrhaeddiad addysgol ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn? OAQ(4)0374(ESK)
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog yn ei ragweld o ran addysgu oedolion yn y gymuned, yn dilyn uno Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn y de a'r gogledd? OAQ(4)0371(ESK)W
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r effaith y bydd argymhellion Comisiwn Williams yn ei chael ar gonsortia addysg? OAQ(4)0372(ESK)
7. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog adrodd ar y cynnydd yn ei ymateb i’r Adolygiad o’r Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru? OAQ(4)0367(ESK)W
8. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhwng Coleg Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ynglŷn â darpariaeth ôl-16? OAQ(4)0381(ESK)
9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu Cymraeg fel ail iaith? OAQ(4)0373(ESK)
10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau i blant ag anghenion addysgol ychwanegol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0378(ESK)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru? OAQ(4)0380(ESK)
12. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth ysgolion o ran diogelu plant? OAQ(4)0377(ESK)
13. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad proffesiynol parhaus i athrawon gwyddoniaeth yng Nghymru? OAQ(4)0375(ESK)
14. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arian a neilltuwyd i ysgolion ymchwilio i'r Rhyfel Byd Cyntaf? OAQ(4)0365(ESK)
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel yr absenoldebau mewn ysgolion cynradd yng Nghymru? OAQ(4)0364(ESK)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi Cymru? OAQ(4)0362(EST)
2. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn Nhorfaen? OAQ(4)0367(EST)
3. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Strategaeth Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0365(EST)
4. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses ymgynghori i drigolion Sir Gaerfyrddin ynglŷn â gwasanaethau bws yn dilyn canslo gwasanaeth Arriva? OAQ(4)0357(EST)W
5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y gweinidog ddatganiad am y rhagolygon economaidd diweddaraf ar gyfer Cymru? OAQ(4)0370(EST)W
6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhwydwaith trafnidiaeth yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0363(EST)
7. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i gefnogi busnesau bach yng Nghymru? OAQ(4)0369(EST)W
8. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i hybu gweithgarwch economaidd yn Abertawe yn 2014? OAQ(4)0356(EST)
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd ar ddatblygiad SA1? OAQ(4)0358(EST)
10. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall gwell seilwaith trafnidiaeth annog datblygu economaidd? OAQ(4)0361(EST)
11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo CERN, y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, yng Nghymru? OAQ(4)0354(EST)
12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0366(EST)
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhwydwaith cefnffyrdd ym Mhowys? OAQ(4)0368(EST)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy? OAQ(4)360(EST)
15. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y seilwaith trafnidiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0364(EST)